Enghraifft o'r canlynol | math o chwarren, dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | meinwe lymffatig, corticomedullary organ, endid anatomegol arbennig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae'r thymws yn organ lymffoid arbenigol sy'n rhan o'r system imiwnedd. Mae'r thymws i'w canfod o flaen y galon a thu ôl i'r sternwm. Yn y thymws, bydd celloedd T neu lymffocytau T yn aeddfedu. Mae celloedd T yn hanfodol i'r system imiwnedd addasol, lle mae'r corff yn addasu'n benodol i ymosod ar antigenau estron. Y thymws yw lle mae celloedd T yn datblygu o gelloedd hematopoietig (sy'n ffurfio gwaed). Yn ogystal, dyma le mae'r celloedd T yn addasu i fod yn oddefgar i gelloedd y corff[1].
Mae'r thymws yn fwyaf gweithgar yn ystod y cyfnodau newydd-anedig a chyn y glasoed. Erbyn yr arddegau cynnar, mae'r thymws yn dechrau arafu. Fodd bynnag, mae'n parhau i wneud lymffocytau trwy gydol oes oedolion.
Gelwir yr organ yn thymws oherwydd bod ei siâp yn debyg i ddeilen y planhigyn teim[2].